Gorsaf Bŵer Dinorwig
Mae Dinorwig, a gomisiynwyd yn wreiddiol yn 1984, yn cynnwys 16km o dwnelau tanddaearol, yng nghrombil Mynydd Elidir. Roedd angen 1 miliwn tunnell o goncrit, 200,000 tunnell o sment a 4,500 tunnell o ddur i’w hadeiladu.
Mwy am Orsaf Bŵer Dinorwig
Gorsaf Bŵer Ffestiniog
Gorsaf Bŵer Ffestiniog oedd cyfleuster pwmpio a storio ynni cyntaf y DU. Erbyn hyn, mae ei phedair uned gynhyrchu yn gallu cyflawni allbwn cyfun o 360MW o drydan – digon i gyflenwi holl anghenion pŵer Gogledd Cymru am sawl awr.
Mwy am Orsaf Bŵer Ffestiniog
First Hydro Company
Mae ENGIE, drwy First Hydro Company, yn gweithredu ac yn berchen ar ddwy orsaf pwmpio a storio ynni dŵr yn ardal Eryri. Mae’r gorsafoedd yn cael eu hystyried yn seilwaith cenedlaethol hanfodol ac yn cynrychioli tri chwarter capasiti pwmpio a storio y DU.
Yn gyfrifol am reoli a gweithredu dwy orsaf bŵer yn Ninorwig a Ffestiniog, mae First Hydro yn cynnig capasiti o dros 2,000 MW, gan helpu i roi hyblygrwydd a sefydlogrwydd i’r grid.
First Hydro Gwybodaeth a pholisïau